16 Medi 2016

Annwyl Syr/Madam

 

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar wefan y Cynulliad yn:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=15873

Gellir gweld cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn Atodiad 1.

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cyllid

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 21 Hydref 2016. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau a hoffai gyfrannu i’r ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc (Catherine Hunt 0300 200 6347).

Yn gywir,

 

 

Simon Thomas AC

Cadeirydd


 

Atodiad 1 – Cylch Gorchwyl

Ystyried—

     i.        egwyddorion cyffredinol y Bil;

   ii.        unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;

  iii.        a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil

  iv.        goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);

    v.        priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).

Ochr yn ochr â'r cylch gorchwyl, gallai ymatebwyr ystyried Rhannau unigol y Bil, yn benodol:

     i.        Rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil;

   ii.        Gweithredu bandiau a chyfraddau treth a sut i sicrhau y gallant ddelio â newidiadau dilynol a newidiadau eraill ledled y DU;

  iii.        Agwedd tuag at osgoi treth – gan gynnwys sicrhau bod llif gwybodaeth briodol gan drethdalwyr, cynghorwyr ac Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â darparu unrhyw ddulliau clirio a sicrhau adnoddau digonol ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru;

  iv.        Yr eithriadau arfaethedig;

    v.        Y gostyngiadau arfaethedig;

  vi.        Sut caiff trafodion preswyl a dibreswyl eu diffinio a'u trin;

 vii.        Sut caiff cwmnïau, ymddiriedolaethau, sefydliadau dielw a phartneriaethau eu trin o ran darpariaethau a gostyngiadau;

viii.        Addasrwydd y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn y Bil (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);

  ix.        Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).